Barnad i ivor hael ai wraig
1 Henaint Anghowraint a hiraeth / a ffoen
2 A ffenyd fal blaen ssaeth
3 marw ivor nid rragoriaeth
4 a marw nest mae kymrv /n/waeth
5 mae /n/ waeth am dadmaeth mae dor
6 Rof ag ef / yn gyving ym laen kor
7 marw nest mae varwest yn vor
8 morwyn nef marw iawn ivor
9 Gore oedd ivor ai gorff syth / yn rhi
10 yn rhoi deifr ar esyth
11 A vu ddigel wehelyth
12 Ag y sydd ag a vydd fyth
13 nid a byth om nyth gan wyd y gerddor
14 A gerddodd kylch y byd
15 ni chan vy nevfraich ennyd
16 ni chaf ni veddaf hawdd vyd
17 hawdd vyd a gyvyd digofaint / kalonn
18 A hiraeth ir vronn honn a henaint
19 herwydd wylaw glaw glas ennaint orchest /
20 am ivor a nest mwy vwy ywr naint
21 [67] hael ddovydd tremydd hwyl trymaint am pair /
22 gweled nest ni chair crair gair gwyraint
23 Raglyw avael yw ne ofeiliaint poen
24 keinlliw haf oroen kain llifeiriaint
25 wrth weled kvried kariad saint am fvdd
26 Ag anwylyd prvdd a gynheiliaint
27 nest wengoeth win ddoeth wyn ddaint / ag ivor
28 A mwy no rhagor am anrregaint
29 A llvchwin o wydr im llochaint / Arhail
30 A medd o vvail mwy vaddevaint
31 A rhvddavr a mein ym rhoddaint / bob awr
32 A hebygav mawr ym hebygaint
33 hir ddoniav ir ddav hwyr yddaint dan gel /
34 y gyd ochel nev godechaint
35 Ag vn dyn y dyn nim oedaint / am fvdd
36 Ag vn ddadanvdd am vvdd vyddaint
37 llyw llygr gaer yn aer niwnaint / eiddil
38 An tvriav now mil mewn twrne enaim
39 llys vasaleg deg dygaint hawdd amor
40 A gwawr i hevrllawr lle mawr meddwaint
41 lle bydd llyferydd llifeiriaint / gwin llestr
42 A golav venestr Ag ael veiniaint
43 [68] llafnvriw llwrw iown wiw llyr ennaint einglgrwydr
44 a llew ysigvrwydr llvosowgvraint
45 llorf llv lled garv lledw geraint / ymro
46 llywyo naf hvno nef i henaint
dd' ap gwilim ai kant